Ymchwil newydd yn chwalu theori hirsefydlog am ymennydd unigolion llaw chwith
Ers degawdau, mae gwyddonwyr wedi pendroni pam mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl llaw chwith yn prosesu iaith yn hemisffer chwith eu hymennydd 鈥 yn union fel eu cymheiriaid llaw dde. Nawr, mae astudiaeth newydd o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Oslo wedi herio un o'r esboniadau mwyaf parhaus am y ffenomen hon.
Dan arweiniad Dr David Carey yn Uned Ddelweddu Prifysgol Bangor, gan weithio ar y cyd 芒鈥檙 Athro Ren茅 Westerhausen o Brifysgol Oslo, aeth t卯m ati i brofi鈥檙 ddamcaniaeth hirsefydlog bod gan bobl llaw chwith fwy o gysylltedd adeileddol rhwng y ddau hemisffer yn yr ymennydd, a adlewyrchir mewn corpws caloswm mwy - sef y bwndel o ffibrau nerfau sy鈥檔 cysylltu鈥檙 hemisffer chwith a鈥檙 hemisffer dde. Aeth eu hastudiaeth, a gyhoeddwyd yn Brain Research, ati i ddadansoddi sampl fawr o unigolion llaw chwith, gan archwilio eu llaw gryfaf a threfniadaeth yr ymennydd o ran iaith.
Yn syndod, ni chanfu eu canlyniadau unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r ddamcaniaeth. Ni ddangosodd unigolion llaw chwith ar y cyfan, nac unigolion 芒 threchedd iaith hemisffer chwith, gynnydd yn o ran cyfaint y corpws caloswm o gymharu 芒 grwpiau eraill. Mae'r canfyddiadau i bob pwrpas yn datgymalu'r syniad y gall gwahaniaethau yn adeiledd yr ymennydd esbonio pam mae 70% o unigolion llaw chwith yn dal i ddibynnu ar yr hemisffer chwith i brosesu iaith.

Rhes waelod: Rene Westerhausen, Emma Karlsson, Leah Johnstone a David Carey
Eglurodd Dr Carey, 鈥淢ae'r canlyniadau diddorol hyn yn gwrthbrofi'r syniad bod y cysylltedd adeileddol yn gallu esbonio'r patrwm anarferol hwn yn nhrechedd ymennydd unigolion llaw chwith. Yn lle hynny, gallai gwahaniaethau cynnil fod ar waith yn y ffordd y mae鈥檙 hemisfferau鈥檔 cyfathrebu鈥檔 swyddogaethol, ac mae hyn yn rhy gynnil i鈥檞 ganfod trwy edrych ar adeileddau鈥檙 ymennydd, megis y corpws caloswm.鈥
Ychwanegodd yr Athro Westerhausen, 鈥淣id yw p'un a yw unigolyn yn gryfach yn y llaw dde neu鈥檙 chwith yn ail-lunio strwythur cyffredinol yr ymennydd yn sylweddol; mae鈥檙 effaith i鈥檞 weld fwy yn y pethau bach. Efallai y bydd dwy record finyl yn edrych bron yn union yr un fath, ond byddant yn swnio'n hollol wahanol wrth eu chwarae. Fel gwyddonwyr yr ymennydd, mae angen inni roi'r gorau i ganolbwyntio ar si芒p y 'records' yn unig a dechrau gwrando'n fwy gofalus ar y 'gerddoriaeth'. Er mwyn deall trechedd dwylo鈥檔 iawn, rhaid inni archwilio sut mae dwy ochr yr ymennydd yn gweithio gyda'i gilydd mewn amser real."
Mae awduron yr astudiaeth yn awgrymu y dylai ymchwil yn y dyfodol ganolbwyntio ar gysylltedd swyddogaethol 鈥 sut mae gwahanol ranbarthau o'r ymennydd yn rhyngweithio'n ddeinamig 鈥 yn hytrach na chwilio am wahaniaethau anatomegol yn y corpws caloswm. Trwy ddefnyddio technegau delweddu uwch, efallai y bydd ymchwilwyr yn gallu datgelu esboniadau newydd am y dirgelwch niwrolegol parhaus hwn.
Mae'r astudiaeth lawn ar gael yn Brain Research a gellir ei chyrchu .