Ymchwil newydd yn chwalu theori hirsefydlog am ymennydd unigolion llaw chwith
Ers degawdau, mae gwyddonwyr wedi pendroni pam mae’r rhan fwyaf o bobl llaw chwith yn prosesu iaith yn hemisffer chwith eu hymennydd – yn union fel eu cymheiriaid llaw dde. Nawr, mae astudiaeth newydd o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Oslo wedi herio un o'r esboniadau mwyaf parhaus am y ffenomen hon.
Dan arweiniad Dr David Carey yn Uned Ddelweddu Prifysgol Bangor, gan weithio ar y cyd â’r Athro René Westerhausen o Brifysgol Oslo, aeth tîm ati i brofi’r ddamcaniaeth hirsefydlog bod gan bobl llaw chwith fwy o gysylltedd adeileddol rhwng y ddau hemisffer yn yr ymennydd, a adlewyrchir mewn corpws caloswm mwy - sef y bwndel o ffibrau nerfau sy’n cysylltu’r hemisffer chwith a’r hemisffer dde. Aeth eu hastudiaeth, a gyhoeddwyd yn Brain Research, ati i ddadansoddi sampl fawr o unigolion llaw chwith, gan archwilio eu llaw gryfaf a threfniadaeth yr ymennydd o ran iaith.
Yn syndod, ni chanfu eu canlyniadau unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r ddamcaniaeth. Ni ddangosodd unigolion llaw chwith ar y cyfan, nac unigolion â threchedd iaith hemisffer chwith, gynnydd yn o ran cyfaint y corpws caloswm o gymharu â grwpiau eraill. Mae'r canfyddiadau i bob pwrpas yn datgymalu'r syniad y gall gwahaniaethau yn adeiledd yr ymennydd esbonio pam mae 70% o unigolion llaw chwith yn dal i ddibynnu ar yr hemisffer chwith i brosesu iaith.

Rhes waelod: Rene Westerhausen, Emma Karlsson, Leah Johnstone a David Carey
Eglurodd Dr Carey, “Mae'r canlyniadau diddorol hyn yn gwrthbrofi'r syniad bod y cysylltedd adeileddol yn gallu esbonio'r patrwm anarferol hwn yn nhrechedd ymennydd unigolion llaw chwith. Yn lle hynny, gallai gwahaniaethau cynnil fod ar waith yn y ffordd y mae’r hemisfferau’n cyfathrebu’n swyddogaethol, ac mae hyn yn rhy gynnil i’w ganfod trwy edrych ar adeileddau’r ymennydd, megis y corpws caloswm.”
Ychwanegodd yr Athro Westerhausen, “Nid yw p'un a yw unigolyn yn gryfach yn y llaw dde neu’r chwith yn ail-lunio strwythur cyffredinol yr ymennydd yn sylweddol; mae’r effaith i’w weld fwy yn y pethau bach. Efallai y bydd dwy record finyl yn edrych bron yn union yr un fath, ond byddant yn swnio'n hollol wahanol wrth eu chwarae. Fel gwyddonwyr yr ymennydd, mae angen inni roi'r gorau i ganolbwyntio ar siâp y 'records' yn unig a dechrau gwrando'n fwy gofalus ar y 'gerddoriaeth'. Er mwyn deall trechedd dwylo’n iawn, rhaid inni archwilio sut mae dwy ochr yr ymennydd yn gweithio gyda'i gilydd mewn amser real."
Mae awduron yr astudiaeth yn awgrymu y dylai ymchwil yn y dyfodol ganolbwyntio ar gysylltedd swyddogaethol – sut mae gwahanol ranbarthau o'r ymennydd yn rhyngweithio'n ddeinamig – yn hytrach na chwilio am wahaniaethau anatomegol yn y corpws caloswm. Trwy ddefnyddio technegau delweddu uwch, efallai y bydd ymchwilwyr yn gallu datgelu esboniadau newydd am y dirgelwch niwrolegol parhaus hwn.
Mae'r astudiaeth lawn ar gael yn Brain Research a gellir ei chyrchu .