Eigionegydd o Brifysgol Bangor yn dod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae eigionegydd o Brifysgol Bangor wedi cael ei gyflwyno fel Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae Tom Rippeth, sy’n Athro mewn Eigioneg Ffisegol yn Ysgol Gwyddorau Eigion y brifysgol, ymhlith y ffigurau blaenllaw i ymuno ag Academi Genedlaethol Cymru.
Cenhadaeth ei Chymrodoriaeth yw hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru, a chefnogi’r defnydd o ymchwil rhagorol ac amrywiol i ddatrys yr heriau a wynebir yng Nghymru a ledled y byd.
Mae’r Athro Rippeth, y mae ei waith yn canolbwyntio ar dyrfedd a chymysgu yn y cefnfor gan gynnwys effaith y llanw a gwynt ar iâ môr yr Arctig yn toddi, yn un o'r 56 Cymrawd newydd a 4 Cymrawd er Anrhydedd sy'n ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru
Daw’r Cymrodyr newydd o’r byd academaidd, y cyhoedd a’r gwasanaeth iechyd, a bywyd dinesig a diwylliannol ehangach Cymru. Cânt eu hethol oherwydd eu harbenigedd a'u profiad, a'u harweinyddiaeth o ran ymchwil a gwybodaeth.
Mae cryfder cyfunol y Gymrodoriaeth gyfan yn helpu’r sefydliad i gyflawni ei nod elusennol i hybu’r defnydd o ymchwil ac arloesi er budd economi a chymdeithas Cymru.
Dywedodd yr Athro Tom Rippeth, “Mae’n anrhydedd mawr bod Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydnabod fy ngwaith fel hyn. Mae hefyd yn dangos cydnabyddiaeth gynyddol o'r ymchwil hinsawdd sy'n digwydd yma ym Mhrifysgol Bangor."
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, “Rydym yn wynebu nifer enfawr o heriau, o newid hinsawdd i gythrwfl gwleidyddol a bygythiadau iechyd sy'n dod i'r amlwg. Bydd yr ateb i gynifer o'r problemau hyn i’w canfod mewn ymchwil a sefydliadau dinesig cadarn. Mae’r arbenigedd hwnnw’n amlwg yn ein Cymrodyr newydd. Mae’n bleser eu croesawu i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.”
Dywedodd Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, “Mae cyhoeddi ein Cymrodyr newydd bob amser yn ddiwrnod i ddathlu ehangder yr arbenigedd sydd gennym yng Nghymru. Rydym wedi gweithio drwy gydol y flwyddyn i ehangu’r ystod o bobl sy’n ymuno â’r Gymrodoriaeth. Mae amrywiaeth Cymrodyr newydd o ddiwydiant, masnach, y celfyddydau a phroffesiynau’n galonogol ac yn adlewyrchu cryfderau Cymru. Mae 23% o Gymrodyr newydd yn dod o gefndiroedd lleiafrif ethnig, tra bod 34% o Gymrodyr newydd yn ferched ac yn cyfrif am ddim ond 30% o'r Gymrodoriaeth yn gyffredinol. Rydyn yn benderfynol o weld y ffigur hwnnw’n codi’n sylweddol dros y blynyddoedd i ddod.”